Ysgol John Bright
Oddi ar Wicipedia
Ysgol uwchradd yn nhref Llandudno, sir Conwy, gogledd Cymru, yw Ysgol John Bright. Fe'i henwir ar ôl y gwleidydd a diwygiwr Radicalaidd o Sais John Bright (1811 - 1889). Tan ddechrau'r 1970au roedd yn ysgol ramadeg. Symudwyd yr ysgol i'w safle newydd yn 2004 ar ôl gorfod gwneud ffordd i archfarchnad newydd Asda ar gyrion y dref, symudiad a fu'n bwnc dadl boeth yn yr ardal ar y pryd.
Mae cyn-brifathrawon yr ysgol yn cynnwys y gwleidydd Gareth Jones, Aelod Cynulliad Aberconwy ers Mai 2007.
[golygu] Dolen allanol
- (Saesneg) Gwefan yr ysgol