Ystrad Tywi
Oddi ar Wicipedia
Roedd Ystrad Tywi yn diriogaeth yn ne-orllewin Cymru, yn cyfateb yn fras i ran helaeth o Sir Gaerfyrddin heddiw.
Rhannwyd Ystrad Tywi yn dri chantref, gyda'u cymydau eu hunain, sef y Cantref Mawr a'r Cantref Bychan ac Eginog.
Collwyd y cantref olaf i'r Normaniaid yn yr 11eg ganrif ac am weddill yr Oesoedd Canol Cantref Mawr a Chantref Bychan yn unig a ffurfiai Ystrad Tywi.
Ar ddechrau'r 8fed ganrif yr oedd Ystrad Tywi yn rhan o Deyrnas Dyfed. Tua'r flwyddyn 730 cipiodd Seisyll ap Clydog, brenin Ceredigion, Ystrad Tywi oddi wrth Rhain ap Cadwgan, brenin Dyfed, a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Rhoddwyd yr enw Seisyllwg ar y deyrnas estynedig newydd. Yn 920 unodd Hywel Dda Seisyllwg a Dyfed i greu Teyrnas Deheubarth.
Yn y gainc gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi, chwedl Pwyll Pendefig Dyfed dywedir i fab Pwyll, Pryderi, ddilyn ei dad ar orsedd Dyfed ac ychwanegu tri chantref Ystrad Tywi a phedwar cantref Ceredigion at ei deyrnas.
[golygu] Cantrefi a chymydau
- Y Cantref Mawr
- Mabelfyw
- Mabudryd
- Gwidigada (Widigada)
- Catheiniog
- Maenor Deilo (Maenordeilo)
- Mallaen
- Caeo
- Y Cantref Bychan
- Hirfryn
- Cwmwd Perfedd
- Is Cennen
- Cantref Eginog
- Cydweli
- Carnwyllion
- Gŵyr
[golygu] Llyfryddiaeth
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co}