Yukon
Oddi ar Wicipedia
Tiriogaeth yng ngogledd-orllewin Canada ar lan Môr Beaufort yw Yukon. Mae'n un o dair tiriogaeth y wlad. Mae'n ffinio ag Alaska i'r gorllewin (UDA), Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin i'r dwyrain a British Columbia i'r de. Yn dir Arctig a orchuddir gan tundra yn y gogledd, mae'n fynyddig yn y de gyda nifer o fforestydd. Mae'r dalaith yn enwog fel lleoliad Rhuthr Aur Klondike (1897-1899). Ei arwynebedd tir yw 531,844 km². Whitehorse yw'r brifddinas.
Taleithiau a thiriogaethau Canada | ![]() |
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec | |
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador | |
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon |