Zoroastriaeth
Oddi ar Wicipedia
Zoroastriaeth yw'r grefydd a sefydlwyd gan y proffwyd Zarathustra, tua dechrau'r 6ed ganrif CC, ym Mhersia (Iran).
Mae'n grefydd deuolaidd cyn-Islamaidd sy'n dal i oroesi mewn rhannau o Iran a rhai o'r gwledydd cyfagos; mae Parsïaid India yn dilyn ffurf arbennig ar Zoroastriaeth a elwir Parsïaeth.
Mae Zoroastriaeth yn cydnabod dwy egwyddor sylfaenol yn y bydysawd, sef Ahura Mazda, un o dduwiau hynafol Iran sy'n cynrychioli'r Goleuni a Daioni, a'i wrthwyneb Ahriman. Gornest y ddau rym elfennol hyn yw bywyd dyn a'r bydysawd. Nid yw'r ornest yn gyfartal gan fod Daioni yn rhwym o ennill yn y diwedd. Pan ddigwydd hynny bydd Ahura Mazda yn atgyfodi y meirw a chreu paradwys newydd ar y ddaear; un o arwyddion y dyddiau hynny yw dychweliad Zarathustra i'r byd fel math o feseia.
Yn ôl dysgeidiaeth Zoroastriaeth mae gan ddyn ewyllys rhydd anghyfyngiedig a diderfyn sy'n gwneud pob dyn a dynes yn gyfrifol am eu tynged eu hun yn y byd hwn a'r byd sydd i ddod. Dethlir ac annogir bywyd a chreu ond credir bod marwolaeth yn difwyno - dyna'r rheswm dros rhoi cyrff y meirw allan yn yr awyr agored i gael eu bwyta gan fwlturiaid ar y Tyrau Marw enwog.