Afon Tigris
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Afon fawr yn ne-orllewin Asia yw Afon Tigris (Arabeg: Dijah). Mae'n codi o lyn ym mynyddoedd Kurdistan yn ne-ddwyrain Twrci ac yn llifo i'r de-ddwyrain trwy ddinas Diyarbakir, ac yna ar hyd y ffîn rhwng Twrci a Syria ac wedyn i Irac. Ger Basra, tua 190 km i'r gogledd o Gwlff Persia mae'n ymuno ag Afon Ewffrates, ar ôl llifo ar gwrs cyfochrog i'r dwyrain o'r afon honno, i ffurfio'r cwrs dŵr a enwir Shatt al-Arab. Ei hyd yw 1850 km (1150 milltir).
Yn y diriogaeth a elwir Irac heddiw roedd afonydd Tigris ac Ewffrates yn ffurfio 'Y wlad rwng y Ddwy Afon', sef Mesopotamia, lle blodeuai rhai o wareiddiaid pwysicaf yr Henfyd, gan gynnwys Assyria, Acad, Swmer a Babilonia.
Credir mai Afon Tigris yw'r Afon Hidecel y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis; un o Bedair Afon Paradwys yn y traddodiad Beiblaidd.
[golygu] Trefi a dinasoedd ar lan yr afon
- Elazig, Twrci
- Diyarbakir, Twrci
- Cizre, Twrci
- Mosul, Irac
- Tikrit, Irac
- Samarra, Irac
- Baghdad, Irac
- Al-Amarah, Irac
- Basra, Irac
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.