Aurignac
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tref fach yn département Haute-Garonne yn Ffrainc yw Aurignac (pobolgaeth 1,139), ar gwr ogleddol y Pyrenees. Prif dref canton Aurignac (poblogaeth 4,160) ydyw.
Mae'r dref yn enwog am y darganfyddiad a wnawed yno yn 1860 o greiriau cynhanesyddol yn yr ogofâu gerllaw, a arweiniodd at ddiffinio'r Diwylliant Aurignac cynhanesyddol. Pan ddaeth y bobl a elwir Cro-Magnon i Ewrop o Affrica tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl, blodeuai eu diwylliant a buont yn gyfrifol am ddatblygiadau ym meysydd offer a chelf.