Bethlehem
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r dref hanesyddol yn Judaea. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Bethlehem (gwahaniaethu)
Mae Bethlehem yn ddinas yn y Dwyrain Canol ar y Lan Orllewinol, lle cafodd Iesu Grist ei eni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y traddodiad Beiblaidd. Yng ngwlad Judea oedd hi yn amser Crist, gwlad yr Iddewon, ond mae mwyafrif y boblogaeth nawr yn Arabiaid ac mae'r ddinas dan reolaeth yr Awdurdod Palesteinaidd. Ystyr Bethlehem mewn Hebraeg safonol yw "tŷ bara".
Gorwedd safle traddodiadol Beddrod Rachel, sy'n safle cysegredig pwysig yn Iddewiaeth, ar ymyl y ddinas. Mae Bethlehem yn gartref i un o'r cymunedau Cristnogol Arabaidd mwyaf yn y Dwyrain Canol. Mae'r ddinas yn gorwedd tua 10 km (6 milltir) i'r de o Jeriwsalem, ar uchder o tua 765 m (2,510 troedfedd) uwchben lefel y môr. Mae cylch dinesig Bethlehem yn cynnwys trefi llai Beit Jala a Beit Sahour.
Saif Eglwys y Geni, a godwyd gan yr ymerodr Rhufeinig Cystennin Mawr yn y flwyddyn 330, yng nghanol Bethlehem dros ogof a elwir y Crypt Sanctaidd, man geni traddodiadol Iesu Grist. Hon efallai yw'r eglwys Gristnogol hynaf yn y byd sy'n dal i sefyll. Gerllaw y mae ogof arall lle treuliodd Sant Jerome, un o dadau'r eglwys, 30 mlynedd o'i oes yn cyfieithu'r Ysgrythurau i Ladin gan osod sylfaen y Beibl Fwlgat.
Mae Bethlehem yn gartref i Brifysgol Bethlehem, sefydliad Catholig pwysig a sefydlwyd gan y Fatican.
Ers rhai blynyddoedd mae Mur Diogelwch Israel yn rhwystr rhwng y ddinas a Jeriwsalem ac yn creu problemau economaidd mawr yn y ddinas. Mae twristiaeth yn arbennig wedi dioddef yn enbyd mewn canlyniad.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.