Brwydr Bryn Glas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd brwydr Bryn Glas (SO 253682), (hefyd Brwydr Pilleth mewn cofnodion Saesneg) yn frwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyndŵr a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson dan Syr Edmund Mortimer. Cafodd ei ymladd ar 22 Mehefin 1402, ger Llanandras (Saesneg: Presteigne) ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y cefndir
Roedd gwrthryfel Owain Glyndŵr wedi dechrau yn 1400. Roedd Harri IV o Loegr wedi penodi Syr Edmund Mortimer yn brif swyddog iddo yn y Mers. Ewythr oedd yr Edmund Mortimer hwnnw i Edmund de Mortimer, 5ed Iarll y Mers a oedd yn mwynhau gwell hawl i goron Lloegr na'r brenin ei hun, yn ddamcaniaethol, ond hyd hynny cefnogai Harri. Ffactor arall yn ei deyrngarwch oedd y ffaith fod ganddo feddiannau helaeth yng Nghymru ac yn y Mers a bu iddo ddioddef eisoes o weithgareddau Glyndŵr; felly nid oedd yn awyddus i weld y gwrthryfel yn parhau.
[golygu] Y frwydr
Ceisiai byddin 8000 milwr Mortimer denu byddin sylweddol lai Owain i ymladd. Ond roedd Owain yn ormod o lwynog. Defnyddiodd ei ysbion a'i gefnogwyr lleol i drefnu ei gynlluniau. Yn ôl pob tebyg roedd wedi llwyddo i ddenu rhagor o Gymry i'w fyddin wrth oedi felly yn ogystal. Y canlyniad fu fod Mortimer, fe ymddengys, wedi meddwl fod ganddo dasg hawdd o'i flaen ac wedi gweithredu'n anghall.
Roedd rhan o fyddin Glyndŵr, tua 3000 o wŷr efallai, wedi meddianu llethr allt uwchben y cwm y byddai'n rhaid i fyddin Mortimer deithio drwyddo. Yn ôl traddodiad roeddent dan gapteiniaeth Rhys Gethin, un o swyddogion mwyaf talentog a phrofiadol Glyndŵr. Neshaodd byddin Mortimer mewn rhengoedd trefnus i fyny'r llethr. Pan ymosodasant cawsant eu criblo gan saethau saethwyr Glyndŵr â'u bŵau hir nerthol. Gan eu bod yn saethu i lawr ar filwyr Mortimer roedd yr ergydion cymaint mwy grymus. Syrthiodd nifer o'r Saeson cyn dod yn agos i rengoedd y Cymry a medru ymladd law wrth law. Dyna pan chwareodd Owain ei gerdyn trwmp: allan o'r coed ar ochr dde y Saeson, rhuthrodd hanner arall ei fyddin yn ddirybudd ar filwyr Mortimer. Torodd byddin Mortimer dan yr ergyd. Roedd yna Gymry lleol o swydd Henffordd yn ei rengoedd hefyd, yn erbyn eu hewyllys, a phan welsant sut oedd y trai yn troi aethant drosodd i Glyndŵr (mae rhai haneswyr yn meddwl fod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw) ac ymosod ar y milwyr Seisnig. Trechwyd byddin Mortimer yn llwyr a chollodd nifer o filwyr cyffredin ac efallai cannoedd o farchogion ar eu meirch trymion.
Yn ôl croniclwyr cyfoes yn Lloegr cafodd cyrff y meirw eu difetha'n anweddus gan y gwragedd a ddilynai byddin Glyndŵr (fel pob byddin arall tan yn ddiweddar), efallai er dial am y treisio a fu gan filwyr Harri y flwyddyn cyn hynny. Daliwyd Mortimer ei hun. Yn nes ymlaen byddai'n priodi Catrin, ferch Owain, ac yn sefyll gyda'r arweinydd Cymreig yn erbyn brenin Lloegr.
[golygu] Llyfryddiaeth
- D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
- R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)