Ceredigion (etholaeth seneddol)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sir etholaeth | |
---|---|
![]() |
|
Ceredigion yn siroedd Cymru | |
Creu: | 1536 |
Math: | Cyffredin Prydeinig |
AS: | Mark Williams |
Plaid: | Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Etholaeth SE: | Cymru |
Mae etholaeth Ceredigion yn ethol aelod i senedd San Steffan. Mark Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) yw aelod San Steffan.
[golygu] Senedd San Steffan
Tan fod Elystan Morgan yn ennill y sedd i San Steffan yn Mawrth 1996 Roderick Bowen oedd yr aelod seneddol. Roedd Elystan yn cyn aelod o Blaid Cymru ond roedd wedi cael ei ddadrithio gan fethiant y blaid i ennill seddau ac ymunodd â'r Blaid lafur ar ôl etholiad cyffredinol 1964. Collodd y sedd yn Chwefror 1974 i Geraint Howells, Rhyddfrydwr ac amaethwr lleol. Yr oedd Elystan wedi digio nifer o gefnogwyr y blaid wrth ochri gyda charfan Seisnig ym Mhlaid Lafur yr etholaeth a oedd yn uchel eu cloch yn erbyn sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Aberystwyth.
Yn 1983 newidiwyd ffiniau'r etholaeth i gynnwys gogledd Penfro yn ogystal.
Yn 1992 enillodd Cynog Dafis y sedd oddi wrth Geraint Howells gan ddod o'r drydedd safle yr oedd yn yr etholiad blaenorol. Roedd Cynog yn cynrychioli Plaid Cymru ond yr oedd hefyd wedi gwneud cyngrair gyda'r Blaid Werdd lleol hefyd.