Chemins de fer de Provence
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae trên bach yn rhedeg 151km (94 o filltiroedd) rhwng Nice a Digne-les-Bains ers 1911, drwy fynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Mae yna wasanaeth cyson rhwng Nice a Digne. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein. Enw'r trên yw "Le train des pignes" (trên y pîn) gan ei fod yn llosgi pîn wedi eu casglu gerllaw y lein (yn lle glo). Roedd cangen arall o'r lein yn croesi afon y Var ger bentref La Manda a mynd drwy Vence hyd at Grasse ond fe gafodd y bont fawr ym mhentref Pont-du-Loup ei fomio yn 1945 gan y fyddin Almaenaidd pan oedden nhw'n ffoi. Mae colofnau'r bont yno o hyd, yn sefyll yn uchel uwchben y pentref.
[golygu] Cyswllt allanol
Gwefan "Chemins de fer de Provence"