Derek Quinnell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Derek Leslie Quinnell (ganed 1949 yn Llanelli) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 23 o gapiau dros Gymru fel clo ac fel wythwr.
Chwaraeodd Derek Quinnell ei gêm gyntaf dros Lanelli yn 1967 a bu'n gapten y clwb yn 1979-80. Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Ffrainc yn 1972.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig dair gwaith. Ef oedd yr unig chwaraewr ar y daith i Seland Newydd yn 1971 nad oedd eisoes wedi ei gapio gan ei wlad, a chwaraeodd mewn un gêm brawf. Aeth i Seland Newydd eto yn 1977, gan chwarae mewn dwy gêm brawf, ac yna ar daith 1980 i Dde Affrica, un waith eto'n chwarae mewn dwy gêm brawf.
Mae tri o'i feibion, Scott, Craig a Gavin wedi chwarae rygbi ar y lefel uchaf, gyda Scott a Craig ill dau yn ennill capiau dros Gymru.