Diyarbakir
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Diyarbakir yn ddinas hynafol ar lannau Afon Tigris yn ne-ddwyrain Twrci. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gyrdiaid.
Mae gan y ddinas hanes hir. Fe'i hamgylchynir gan furiau trwchus o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd sy'n ymestyn am 6km.
Fe'i cipiwyd gan y Tyrciaid yn 1515.
Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei chrefftwyr gwaith ffiligri aur ac arian medrus.