Golan, Gwynedd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Golan.
Pentref gwledig bychan yn Eifionydd, Gwynedd, yw Golan. Fe'i lleolir ger Dolbenmaen ar y lôn i Lanfihangel-y-pennant, 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthmadog. Mae lôn yn dringo o'r pentref i Lyn Cwmystradllyn, wrth droed Moel Hebog yn Eryri.
Mae'n cymryd ei enw o'r capel lleol, a enwir yn ei dro ar ôl y ddinas Golan ym Mhalesteina, un o chwech Dinas Noddfa'r Hen Destament.