Moel Hebog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Moel Hebog Eryri |
|
---|---|
Llun | Moel Hebog o'r gogledd, gyda Moel yr Ogof ar y dde. |
Uchder | 783m |
Gwlad | Cymru |
Mae Moel Hebog yn fynydd yn Eryri, rhwng Beddgelert a Cwm Pennant. Mae bryniau Moel Yr Ogof a Moel Lefn gerllaw, gyda Chwm Llefrith yn gwahanu Moel Hebog a Moel yr Ogof. O ochr Beddgelert mae'r mynydd yn ymddangos yn greigiog. Mae o gryn ddiddordeb i fyfyrwyr daeareg oherwydd yr amrywiaeth o greigiau folcanig a geir arno.
Gellir ei ddringo o bentref Beddgelert neu o Gwm Pennant. Yn ôl y chwedl, bu Owain Glyndŵr yn ymguddio yn yr ogof ar Foel yr Ogof.