Mosul
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Mae Mosul (Arabeg: الموصل al-Mawṣil, Cyrdeg: Mûsil, Syrieg: ܢܝܢܘܐ Nîněwâ, Tyrceg: Musul) yn ddinas yn ngogledd Irac yn agos i'r ffin â Twrci a phrifddinas talaith Ninawa. Saif ar lannau Afon Tigris, sydd â phump o bontydd arni, tua 396 km (250 milltir) i'r gogledd-orllewin o Baghdad. Daw enw'r deunydd lliain mwslin o enw'r ddinas, a oedd yn ganolfan bwysig i'r diwydiant mwslin am ganrifoedd. Cynnyrch arall o bwys hanesyddol yw marmor Mosul.
Yn 1987, roedd ganddi boblogaeth o 664,221; yr amcangyfrif yn 2002 oedd 1,739,800. Mosul yw trydedd ddinas fwyaf Irac, ar ôl Baghdad a Basra.
O 1534 hyd 1918 bu'n ganolfan masnach bwysig yn yr Ymerodraeth Ottoman.
Mae'n un o brif ganolfannau'r diwydiant olew yn Irac.