Pontllyfni
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Pontllyfni yn bentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd, ar ffordd yr A499 o Gaernarfon i Bellheli. Saif lle mae Afon Llyfni yn cyrraedd y môr, ychydig i'r gorllewin o Benygroes a Llanllyfni. Ystyrir yr ardal yn rhan o Ddyffryn Nantlle.
Dyma'r ardal a elwid yn "Brynaerau" yn mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Mae nifer o enwau lleoedd o gwmpas Pontllyfni a chysylltiadau a'r chwedl yma, er enghraifft ynys fechan Caer Arianrhod ychydig i'r gogledd, rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle, a Thrwyn Maen Dylan fymryn i'r de o'r pentref. Yn ddigon addas, bu'r ysgolhaig Syr Ifor Williams yn byw yma am gyfnod.