Telor yr Hesg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Telor yr Hesg | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Acrocephalus schoenobaenus Linnaeus, 1758 |
Mae Telor yr Hesg (Acrocephalus schoenobaenus) yn aelod o deulu'r Teloriaid sy'n nythu yn y rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin a chanol Asia. Mae'n aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica.
Gellir ei adnabod o'r cefn brown gyda llinelllau du, gwyn ar y bol ac yn enwedig y llinell wen uwchben y llygad. Mae'r ddau ryw yr un fath. Ceir yr aderyn yma fel rheol lle mae tir gwlyb a llwyni, er enghraifft o gwmpas glannau llynnoedd ac afonydd, er ei fod i'w gael mewn lleoedd sych hefyd. Ei brif fwyd yw pryfed.
Mae'r gân yn debyg iawn i gân Telor y Cyrs, ond yn gyflymach.