Trabzon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond).
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn ganolfan weinyddol i dalaith Trabzon.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas yr Ymerodraeth Gomneniaidd a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Concwerwr yn 1451.
Ar ymyl y dref mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.
Sefydlwyd prifysgol yn 1980.