Twrog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sant o'r chweched neu'r wythfed ganrif oedd Twrog. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Ithel Hael.
Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Llandwrog (ger Caernarfon, Gwynedd). Twrog yw nawddsant Maentwrog ym Meirionnydd (de Gwynedd) hefyd. Yn ogystal mae'n nawddsant Bodwrog ym Môn.
Ym Maentwrog ceir carreg anferth yng ngongl yr eglwys, sy'n wahanol i'r cerrig eraill ynddi, ac a elwir wrth yr enw Maen Twrog. Yn ôl traddodiad taflodd y sant y maen mawr o ben y Moelwynion.
Ei wylmabsant yw 26 Mehefin (hefyd 15 Awst).