Y Betws
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am enghreifftiau eraill enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Gorwedd cymuned Y Betws rhwng Afon Aman, sydd i’r gogledd, ac Afon Cathan i’r De, sy’n dynodi’r ffin sirol rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Forgannwg. O edrych i’r gorllewin, gwelir dyffryn eang y Llwchwr. Yna gwelir Mynydd y Betws, sy’n ffurfio ochr ddeheuol Dyffryn Aman, yn codi i uchder o 371m ym Mhenlle’r Castell, sydd dafliad carreg tu allan i’r ffin gymunedol.
Fel nifer o gymunedau eraill yn Nyffryn Aman, cafodd cyfnod y diwydiannau trymion gryn ddylanwad ar y Betws. Gwelwyd cyfnod pan oedd sawl gwaith glo yn y gymuned, ac roedd y bobl leol yn dibynnu ar y diwydiant glo am waith a bywoliaeth. Er fod gan y Betws nifer o nodweddion pentref glofaol bychan, sef y tai teras, y tafarndai, y capel a’r eglwys, gorwedd y gymuned wrth ymyl tir comin Mynydd y Betws, ac nid yw’r gymuned erioed wedi colli’r awyrgylch gwledig, ac mae llethrau mynydd y Betws yn frith o ffermydd, tyddynnod., a bythynnod.
Trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin |
Bancyfelin | Y Betws | Bethlehem | Brynaman | Bynea | Caerfyrddin | Castell Newydd Emlyn | Cydweli | Glanaman | Hendy-gwyn ar Dâf | Llandeilo | Llandybie | Llanelli | Llanfihangel-ar-Arth | Llanfynydd | Llanybydder | Llanymddyfri | Pontyberem | Porth Tywyn | Rhydaman | Rhydcymerau | Sanclêr | Talyllychau Tymbl |