Abu Bakr Mohammad Ibn Zakariya al-Razi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ysgolhaig a gwyddonydd amryddawn oedd Abū Bakr Muhammad ibn Zakarīya al-Rāzi (Persieg: زكريای رازی Zakaria ye Razi; Arabeg: ابو بکر محمد بن زكريا الرازی; Lladin: Rhazes neu Rasis). Yn ôl y croniclydd al-Biruni cafodd ei eni yn Rayy, Iran yn y flwyddyn 865 (251 AH), a bu farw yno yn 925 (313 AH) (neu 930 yn ôl rhai ffynnonellau).
Roedd Razi yn ysgolhaig, ffisegydd ac athronydd amlochrog ac amryddawn a wnaeth gyfraniadau pwysig a phellgyrhaeddol ym meysydd meddygaeth, alcemi, ac athroniaeth. Cyhoeddodd dros 184 o lyfrau ac erthyglau. Un o'i ddarganfyddiadau pwysicaf oedd alcohol. Roedd o gefndir diwylliedig iawn ac yn gyfarwydd â meddygaeth Roeg. Credir iddo ddargnafod asid swlffwrig ac ethanol hefyd. Roedd Razi yn un o feddylwyr mwyaf y byd Islamaidd. Cafodd ddylanwad aruthrol ar ei gyfoeswyr a'u olynwyr yn ogystal ac ar wyddoniaeth a meddygaeth Ewrop trwy'r cyfieithiadau Lladin o'i waith.
Rhesymegydd rhyddfrydol oedd Razi. Fe'i ystyrid gan ei gyfoeswyr a'i bywgraffyddwyr yn ddyn rhydd o bob rhagfarn, chwim a threiddgar ei feddwl a di-flewyn ar dafod. Fel nifer o Ewropeiaid yn ystod y Dadeni Dysg credai yn y ddynoliaeth, cynydd a "Duw Doeth". Teithiodd yn eang a gwasanaethai sawl tywysog a llywodraethwr yn y byd Islamaidd. Fe'i cysylltir yn arbennig â Baghdad lle sefydlodd ei labordy. Deuai nifer o ddigyblion ato i gael ei gyngor a rhannu o'i wybodaeth a roddai i bawb yn ddiwahân, tlawd a chyfoethog fel ei gilydd.
Enwir Sefydliad Razi yn Tehran, a Phrifysgol Razi yn Kermanshah ar ei ôl, a dethlir 'Gŵyl Razi' ('Diwrnod Fferylliaeth') yn Iran ar 27 Awst.