Afon Afan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae'r afon Afan yn llifo tua 15 millitir lawr Cwm Afan ac yn cyrraedd y môr ym Mhorth Talbot. Ardal canolog Porth Talbot yw hen dref Aberafan.
Mae'r afon yn codi i'r gorllewin o Gwm Rhondda ger pentref Abergwynfi. Mae'n rhedeg i'r gorllewin rhwng bryniau serth ac yn araf yn troi i gyfeiriad de-orllewinol cyn cyrraedd y môr. Mae'r nentydd sydd yn rhedeg i mewn i'r Afan yn cynnwys y Pelenna, a'r Corrwg.
Nid yw tarddiad yr enw yn glir. Un theori yw ei fod yn dod o'r gair 'mafon'. Un arall yw ei fod yn gyfeirad at yr afon yn dod o'r 'ban' (h.y. o'r bryniau uchel) oherwydd mae taith yr afon yn fyr ond yn serth.
Am y rhan fwyaf o'r 19eg ganrif a hanner cyntaf yr 20fed ganrif roedd yr afon wedi ei llygru yn ddifrifol gan y diwydiant glo a haearn. Erbyn hyn mae'r afon yn cynnal pysgod eto.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.