Afon Dwyfor
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Dwyfor yn afon yng ngogledd-orllewin Cymru.
Mae Afon Dwyfor yn tarddu yn rhan uchaf Cwm Pennant, lle mae nifer o nentydd yn cyfarfod. Wedi llifo tua'r de trwy bentref Llanfihangel-y-pennant mae'r troi tua'r de-orllewin heibio Dolbenmaen ac yna trwy benref Llanystumdwy, lle mae bedd David Lloyd George ar lan yr afon. Yn fuan wedyn mae Afon Dwyfach yn ymuno a hi, ychydig cyn iddi gyrraedd y môr i'r de o Lanystumdwy ac i'r gorllewin o dref Cricieth, gan aberu ym Mae Ceredigion.