Afon Ebro
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Afon Ebro (Catalaneg:Ebre) yw afon fwyaf Sbaen; 910 km o hyd, gyda dalgylch o 83,093 km2. Mae'n llifo i Fôr y Canoldir. Ceir ei tharddiad yn Fontibre (enw sy'n dod o'r Lladin Fontes Iberis) yn Cantabria. Y prif drefi ar ei glannau yw Miranda de Ebro, Haro, Logroño, Calahorra, Alfaro, Tudela, Alagón, Zaragoza, Caspe, Mequinenza, Riba-Roja d'Ebro, Ascó, Tortosa, Amposta, San Jaume d'Enveja a Deltebre. Mae'n llifo trwy Gymunedau Ymreolaethol Cantabria, Castilla y León, Castilla - La Mancha, La Rioja, Navarra, Aragón, Cymuned Valencia a Catalonia.
Ychydig cyn cyrraedd y môr mae'r afon yn ymwahanu yn nifer o afonydd bychain. Mae'r ardal o gwmpas aber yr Ebro yn ardal amaethyddol gynhyrchiol iawn, yn enwedig ar gyfer tyfu reis. Mae'r ardal yma hefyd o bwysigrwydd mawr ar gyfer adar, a chafodd ei gyhoeddi'n barc cenedlaethol yn 1983.