Afon Helmand
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Afon yn ne Affganistan yw Afon Helmand (hefyd Helmund a Hilmand). Ei hyd yw 1400km (870 milltir).
Mae'n codi yn ne-ddwyrain y wlad yn nhalaith Zabul ger y ffin â Pacistan. Rhed ar gwrs gorllewinol trwy dalaith Kandahar heibio i ddinas Kandahar a thref Khugrani. Yn nhalaith Helmand mae afonydd o'r Hindu Kush yn ymuno â hi ac mae'n troi i'r de ac yn llifo heibio i dref Darweshan ar y gwastatir. Wrth lifo i dalaith Chakhansur mae'n troi i'r gorllewin ac yna i'r gogledd-orllewin i ymgolli yn llyn corsiog Halmun Helmand ar y ffin ag Iran.