Afon Prysor
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Afon yng ngogledd yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw) yw Afon Prysor. Mae'n codi ar y rhosdiroedd rhwng Ffestiniog a'r Bala ac yn aberu yn Afon Dwyryd ger Maentwrog. Ei hyd yw tua 14 milltir.
Tarddle Afon Prysor yw Llyn Conglog-mawr, mewn cwm gwyllt ac unig yng nghysgod bryniau Foel Cynfal a Moel y Croesau, tua 1100 troedfedd uwch lefel y môr. Mae hyn yn ardal wlyb iawn, yn ymyl i'r Migneint a'i gorsydd eang. Rhed ar gwrs tro bedol am ddwy filltir gan gasglu afonig o Lyn Cors-y-barcud a disgyn i Gwm Prysor. Mae'n troi i'r gorllewin i lawr y cwm ac yn casglu dŵr o sawl ffrwd arall megis Nant Braich-y-ceunant, Nant Budr, Nant Bryn-llefrith ac Afon Llafar. Mae'r A4212 yn dilyn ei glannau. Mae'n llifo heibio i Graig Aderyn a Chastell Prysor ac yn disgyn i Lyn Trawsfynydd, y gronfa a greuwyd â dŵr yr afon i oeri atomfa Trawsfynydd.
Ar ôl croesi'r llyn mae'n disgyn yn gyflym trwy goedwig Ceunant Llennyrch i aberu yn Afon Dwyryd tua milltir a hanner i'r gorllewin o Faentwrog.