Ahmad Kheireddine
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Ahmad Kheireddine (1905 - 1967) yn fardd a dramodydd yn yr iaith Arabeg o Tunisia.
O dras Tyrcaidd, cafodd ei eni mewn amgylchiadau digon tlawd mewn ardal dosbarth gweithiol yn Tunis. Gorffenodd ei astudiaethau yng ngholeg La Zitouna, yn y brifddinas, trwy ddarlen cyfieithiadau Arabeg o weithiau llenyddol Gorllewinol. Ond ymddiddorai yn y traddodiad brodorol yn ogystal ac aeth ati i astudio mydryddiaeth Arabeg a'i cherddoriaeth.
Roedd yn aelod o un o'r grwpiau llenyddol-wleidyddol yn Tunis a wrthwynebai reolaeth Ffrainc ar eu gwlad. Ysgrifenodd nifer o ddramâu, rhai ohonyn' nhw'n seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, er enghraifft al-Kâhina (1937) sy'n bortread o'r arwres El Kahena a arweiniodd y Berber yn erbyn y goresgynwyr Arabaidd yn y 6ed ganrif. Golygodd sawl cylchgrawn llenyddol a gwleidyddol.
Yr oedd yn fardd dawnus yn ogystal a ganai ar y mesurau poblogaidd; mae rhai o'i ganeuon yn cael eu gosod i gerddoriaeth o hyd yn Tunisia.
[golygu] Ffynhonell
- Jean Fontaine, Histoire de la littérature tunisienne (Tunis, 1994). ISBN 9973-19-404-7