Aillén
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Aillén yn anghenfil chwedlonol Gwyddelig sy'n poeri tân.
Ceir hanesion amdano yn chwedlau Cylch y Fiana.
Yn amser y brenin Conn Cétchatach roedd yr anghenfil yn dod i'r llys yn Tara bob Samain (Gŵyl Calan Gaeaf), yn gwneud i bawb syrthio i gysgu trwy swyn ei gerddoriaeth ac yna'n llosgi castell y brenin. Llwyddodd yr arwr Finn mac Cumaill i aros yn effro un tro a lladdodd Aillén â'i waywffon.
Mae'n perthyn i ddosbarth eang o anghenfilod arallfydol rheibus cysylltiedig â thân, e.e. dreigiau.