Amser
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cysyniad ydyw Amser sy'n mesur parhad digwyddiadau a'r cyfnodau rhyngddynt.
Mae amser yn baramedr sylfaenol i bopeth sy'n newid - heb newid ni cheir amser, heb amser ni cheir newid. Mesur y mae amser graddfa newid digwyddiadau. Trwy sefydlu graddfa o'r fath y mae amser yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr hyn sydd wedi digwydd, yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sydd ar fin digwydd; yr hyn a fu, y sydd ac a fydd.
I sylwedydd cyffredin mae'n ymddangos fod amser yn llifo'n gyson i un cyfeiriad yn unig, h.y. o'r gorffennol i'r presennol ac i'r dyfodol. Ond, yn ôl damcaniaeth cydberthnasedd Einstein nid dyna sydd mewn gwirionedd. Er mwyn lleoli digwyddiad yn iawn yn y bydysawd Einsteinaidd rhaid ei ystyried mewn continuum gofod-amser pedwar dimensiwn.
Yn hanesyddol, mae mesur amser ar y ddaear yn seiliedig ar sylwadau seryddol, sef yr amser y mae'n cymryd i'r ddaear gylchdroi ar ei hechel (diwrnod) neu iddi gwblhau ei gylchdro o gwmpas yr haul (blwyddyn). Fodd bynnag, mae gwyddoniaeth ddiweddar yn seilio mesur amser ar yr eiliad, a ddiffinir yn nhermau amlder yr ymbelydredd a ryddheir mewn cyfnod newid diffiniedig eisotôp iwraniwm; gelwir hyn yn gloc caesiwm.