Andhra Pradesh
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Andhra Pradesh yn dalaith yn nwyrain canolbarth India. Mae'n ffinio â Tamil Nadu yn y de, Karnataka yn y gorllewin a Maharashtra, Madhya Pradesh ac Orissa yn y gogledd. Yn y dwyrain mae ganddi arfordir hir ar Fae Bengal. Ei harwynebedd tir yw 276,754km² ac mae ganddi boblogaeth o tua 74 miliwn (1999). Ei phrifddinas yw Hyderabad.
Y brif iaith yn Andhra Pradesh yw Telugu. Dim ond tua 46% o'r boblogaeth sy'n medru darllen a sgwennu.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.