Androw Bennett
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Androw Bennett, awdur a chyfreithiwr. Ganwyd ar 19 Mai, 1946, yn Ysbyty Stryd Y Priordy, Caerfyrddin er mai yn Llangennech, ger Llanelli oedd cartre'i deulu. Cyhoeddodd nofel Dirmyg Cyfforddus ym 1994. Cydweithiodd ar ddyddiaduron gyda'r cricedwr, Robert Croft (1994) a chapten tim rygbi Cymru, Jonathan Humphreys (1995). Yn 2002, cyhoeddodd gyfrol Saesneg Welsh Rugby Heroes am arwyr rygbi Cymru dros ail hanner yr 20ed Ganrif.
Ers 2001 Androw Bennett yw Ymgynghorydd Ewyllysiau a Chymynroddion yr elusen "Help the Aged" dros Gymru.
Bu'n cyfrannu erthyglau i wythnosolyn Y Cymro ers 1994 ac, o bryd i'w gilydd, i gylchgrawn Barn. Erbyn 2005, ef yw prif sylwebydd rygbi Y Cymro ac mae'n sylwebu ar rygbi'n achlysurol i Radio Ceredigion.