Angharad Tomos
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Awdures ac ymgyrchydd iaith yw Angharad Thomas (ganed 1958).
Fe'i ganed ar 19 Gorffennaf 1958 ym Mangor, a chafodd ei magu gyda'i pum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddarach.
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt. Cafodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith.
Yn ogystal, mae hi'n ysgrifennu a dylunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng ngwlad y Rwla.
Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes, Gwynedd.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Hen Fyd Hurt Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd 1982
- Yma o Hyd
- Si Hei Lwli Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991
- Wele'n Gwawrio Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997
- Titrwm
- Cnonyn Aflonydd Bywgraffiad 2001
- Hiraeth am Yfory: Hanes David Thomas a Mudiad Llafur Gogledd Cymru Cofiant o'i thaid
- Y Byd a'r Betws Casgliad o'i cholofnau papur newydd
- Rhagom Nofel am y Rhyfel byd cyntaf