Arofan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd Cymraeg o'r 7fed ganrif. Ceir cyfeiriad ato yn y Triawd Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain, yng nghwmni Tristfardd a Dygynnelw.
- Arouan vard Sele(v) ap Kynan (Garwyn) (TYP triawd 11.3)
- "Arofan bardd Selyf ap Cynan Garwyn"
Ceir dau gyfeiriad ato yng ngwaith Cynddelw Brydydd Mawr:
- Gnavd canaf y volyant ual auan uertic / neu uartwavd arouan
- "Arferol yw imi ganu moliant iddo fel (canu) Afan Ferddig / neu (canu) Arofan."
[golygu] Ffynhonnell
Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). ISBN 070830690X