Betws Gwerful Goch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Gweler hefyd Betws (gwahaniaethu).
Pentref bach gwledig yn y Sir Ddinbych newydd yw Betws Gwerful Goch. Roedd gynt yn rhan o Sir Feirionnydd (tan 1974) ac ar ôl hynny Clwyd (1974 - 1996). Roedd Betws Gwerful Goch yn rhan o hen arglwyddiaeth annibynnol Dinmael yn yr Oesoedd Canol. Fe'i lleolir rhwng Melin y Wig a Chorwen yn ne eithaf y sir. Rhed Afon Alwen heibio iddi.
[golygu] Yr eglwys
Roedd Betws Gwerful Goch yn un o blwyfi hynafol Merionnydd. Dywedid ei bod yn bosibl taflu carreg o lan yr eglwys i un o'r tair plwyf y mae ei ffiniau'n cwrdd yno, sef plwyfi Corwen, Llanfihangel Glyn Myfyr, a Gwyddelwern. Mae'r eglwys yn gysegredig i'r Santes Fair.
Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at yr eglwys yn 1254, ond fel yn achos nifer o fannau eraill mae'n bosibl fod eglwys yno cyn hynny. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio'n sylweddol yn 1882 ond cedwir ynddi rhai o'r cerfiadau pren hynafol o'r hen eglwys.
[golygu] Gwerful
Roedd Gwerful yn ferch i Gynan (m. 1174) fab Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua'r flwyddyn 1200 felly. Un o'i hewythrau oedd y bardd-dywysog enwog Hywel ab Owain Gwynedd. Cafodd ei chladdu yn Dinmael. Dyna'r cwbl sy'n hysbys amdani ond mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yno a gafodd ei henwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn (gw. Yn Ei Elfen (Llanrwst, 1992), tt. 18-19).
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Betws Gwerful Goch | Corwen | Dinbych | Llandegla-yn-Iâl | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llangollen | Melin y Wig | Nantglyn | Prestatyn | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tremeirchion |