Blodeuwedd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Merch a greodd y dewiniaid Gwydion ap Dôn a Math fab Matholwch o flodau'r derw, banadl ac erwain, i fod yn wraig i Leu Llaw Gyffes yw Blodeuwedd. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy.
Cynllwyniodd Blodeuwedd gyda'i chariad Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, i ladd Lleu, ac fel cosb cafodd hi ei throi yn dylluan gan Gwydion.
Ysgrifennodd Saunders Lewis ddrama adnabyddus o'r enw Blodeuwedd sy'n seiliedig ar y chwedl.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.