Bro Morgannwg (etholaeth)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Bro Morgannwg yn etholaeth yn ne Cymru sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r ardaloedd ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn yr etholaeth, ynghŷd â chanolfan atgyweirio awyrennau yn Sain Tathan.
Mae'r etholaeth wedi bod yn un ymylol yn y gorffennol, gyda'r Ceidwadwyr yn ei chipio ym 1992 o 19 bleidlais yn unig. Ers hynny mae hi wedi bod yn nwylo'r Blaid Lafur.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Etholiadau i'r Cynulliad
Jane Hutt o'r Blaid Lafur yw Aelod Cynulliad Bro Morgannwg ers 1999. Hi yw gweinidog iechyd llywodraeth y Cynulliad. Mae'r sedd yn ran o ranbarth Canol De Cymru.
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2003
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Canran |
---|---|---|---|
Jane Hutt | Llafur | 12267 | 44.0 |
David Melding | Ceidwadwyr | 9614 | 34.5 |
Christopher Franks | Plaid Cymru | 3921 | 14.1 |
Nilmini De Silva | Democratiaid Rhyddfrydol | 2049 | 7.4 |
[golygu] Etholiadau i San Steffan
Mae John Smith o'r Blaid Lafur wedi cynrychioli Bro Morgannwg yn San Steffan ers 1997.
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2001
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Canran |
---|---|---|---|
John Smith | Llafur | 20524 | 45.4 |
Susie Inkin | Ceidwadwyr | 15824 | 35.0 |
Dewi Smith | Democratiaid Rhyddfrydol | 5521 | 12.2 |
Christopher Franks | Plaid Cymru | 2867 | 6.3 |
Niall Warry | UKIP | 448 | 1.0 |