Brwydr Mynydd Carn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Brwydr bwysig a ymladdwyd yn y flwyddyn 1081. Mae ei union leoliad yn ansicr, er bod gogledd Sir Benfro yn ymddangos yn dra thebygol, efallai yng nghyffiniau Carn Ingli yn y Preseli.
Wedi marw Gruffudd ap Llywelyn yn 1063 bu Gwynedd yn nwylo brenhinoedd eraill am ddeunaw mlynedd, sef Bleddyn ap Cynfyn o Bowys hyd 1075, a Trahaearn ap Caradog o Arwystli hyd 1081. O 1075 ymlaen brwydrodd Gruffudd ap Cynan i geisio adennill ei deyrnas. Yn 1081 ffurfiodd gynghrair â Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth a llwyddodd i drechu Trahaearn a'i gynghreiriaid ym Mrwydr Mynydd Carn.
Yn ôl Brut y Tywysogion (fersiwn Peniarth 20),
- Blwyddyn wedy hyny y bu ymlad mynydd karn ac yno y llas trahayarn ap karadawc a charadawc a gruffudd a meilyr meibyon riwallawn... ac yn ol ynteu y doeth gruffudd wyr y yago ac ysgottyeid yn borth iddaw ac y llas gwrgeneu vab seissyll ygan veibyon rys seis.
Yn Hanes Gruffudd ap Cynan, dywedir am Fynydd Carn,
- Sef yw hynny mynydd y garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fein[i], o dan yr hon y claddwyd rhyssw[y]r yng nghynoesedd gynt. (orgraff ddiweddar).
[golygu] Darllen pellach
Crynhoir y ffeithiau a'r dadleuon am y safle yng ngolygiad D. Simon Evans o Hanes Gruffudd ap Cynan (Historia Gruffud vab Kenan, Caerdydd, 1977).
Daw'r dyfyniad o'r Brut o olygiad Thomas Jones, Brut y Tywysogion (Peniarth MS. 20) (Caerdydd, 1941).