Bwlch Sychnant
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bwlch enwog sy'n gorwedd rhwng Penmaenmawr a Chonwy ar arfordir gogledd Cymru yw Bwlch Sychnant neu Sychnant.
Er nad yw Sychnant yn arbennig o uchel (tua 500 troedfedd) mae o ymhlith y mwyaf trawiadol a'r harddaf yng Nghymru. Cyn agor lôn yr A55 heibio i benrhynoedd syrth y Penmaen-mawr a'r Penmaen-bach rhedai'r brif lôn o gyfeiriad Caer i Gaergybi a Chaernarfon dros y bwlch hwn.
I'r gogledd mae'r Alltwen a'i chaer ac o'r golwg i'r gogledd-ddwyrain mae bryngaer Castell Caer Seion. Mae'r ardal o gwmpas Sychnant yn eithriadol hardd ac yn denu ymwelwyr a cherddwyr trwy'r flwyddyn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.