Cadair Idris
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cadair Idris Eryri |
|
---|---|
Llun | Pen y Gadair ar Gadair Idris |
Uchder | 893m |
Gwlad | Cymru |
Un o fynyddoedd enwog gogledd Cymru yw Cadair Idris (a elwir yn lleol yn 'Gader Idris'). Fe'i lleolir ym Meirionnydd, Gwynedd, ger Dolgellau, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae ganddo bedwar copa sef Geugraig, yna tua'r gorllewin Mynydd Moel, wedyn Pen y Gadair ei hun ac yna'r Cyfrwy a'r Tyrau Mawr yn ymestyn i'r dwyrain tua'r môr. Mae Pen y Gadair 893 metr uwch ben y môr.
[golygu] Idris
Yn ôl traddodiad enwir y mynydd ar ôl y cawr Idris. Roedd yn bennaeth ar dri chawr arall yn yr ardal, Ysgydion, Offrwm ac Ysbryn, ac mae eu henwau hwythau ar y bryniau hefyd. Un o hen ystyron y gair 'cadair' yw 'gorsedd'. Yno yn nghwm Llyn y Gadair roedd y cawr yn eistedd. Roedd yn enwog am ei wybodaeth o'r sêr a dywedir ei fod yn eistedd ar ben Cader Idris i'w gwylio.
[golygu] Llwybrau
Ymhlith y llwybrau ar y Gader mae un Minffordd sy'n mynd heibio Llyn Cau. Yn ôl yr awdures Bethan Gwanas yn ei llyfr Y Mynydd Hwn, y llwybr mwyaf poblogaidd yw Llwybr Pilin Pwn sef yr un a adnabyddir yn Saesneg fel y "Pony Track". Dywed hefyd mai'r enw Gymraeg am "Foxes Path" yw Llwybr Madyn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.