Caerloyw
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas yng ngorllewin Lloegr, ar lan ddwyreiniol Afon Hafren yw Caerloyw (Saesneg: Gloucester, Lladin: Glevum).
Prifddinas Sir Gaerloyw ydyw Caerloyw. Mae'n gorwedd rhwng Coedwig Dena i'r gorllewin, Bryniau Malvern i'r gogledd-orllewin, a Bryniau Cotswold i'r dwyrain. Mae tua 160,000 o bobl yn byw yn y ddinas.
Bu Caerloyw yn un o ddinasoedd y Rhufeiniaid gyda'r enw Lladin Glevum. Cafwyd hyd i ddarnau arian Rhufeinig yn y ddinas, yn ogystal ag olion muriau Rhufeinig.
Mae'r ddogfen Historia Brittonum yn dweud i daid Gwrtheyrn reoli Caerloyw. Syrthiodd Caerloyw i ddwylo'r Saeson ar ôl Brwydr Deorham, y fuddugoliaeth Seisnig a rannodd Frythoniaid Cymru a'r Hen Ogledd o Frythoniaid de orllewin Prydain.
Mae'r brenin Edward II, y 'Tywysog Cymru' Seisnig cyntaf, wedi'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw. Roedd wedi cael ei lofruddio yn 1327 yng Nghastell Berkeley yn yr un sir ar ôl cael ei ddiorseddu.
[golygu] Gefeilldrefi
|
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.