Cledrydd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfrifiadur poced neu 'Cynorthwywr Digidol Personol' yw Cledrydd, (yn Saesneg Personal Digital Assistant neu PDA). Mae cledrydd yn llenwi un llaw, lle mae gliniadur yn gludadwy ond yn rhy fawr i gario mewn unrhywbeth llai na fag ac yn anghyfleus i ddefnyddio wrth symud.
Oherwydd eu datblygaid gwreiddiol i'r byd busnes mae cledryddau yn tueddi i ganolbwyntio ar brosesau pwysig i'r swyddfa - e.e. cysylltiadau, digwyddiadur, e-byst - ond wrth iddynt ddod yn fwy boblogaidd ac yn fwy pwerus maent wedi dechrau cael y gallu i ddiddori - e.e. cymryd lluniau, dangos ffilmiau neu chwarae cerddoriaeth.
Mae cledryddau 'pur' o dan fygythiad wrth i gydgyfarfod technolegol digwydd wrth i ffônau symudol newid i ffônau medrus.
Wikipedia for PDAs with internet access: http://cy.wapedia.org