Cyfraith Hywel Dda
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sefydlwyd Cyfraith Hywel Dda yr un adeg â cyfraith Mers gan Brenin Offa a cyfraith Wessex gan Brenin Alfred a mae'n bosib fod Hywel yn gwybod amdanynt achos roedd wedi bod yn ymweld â'r llys Seisnig.
Nid cyfundrefn newydd yw Cyfraith Hywel Dda. Daeth cynrychiolwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gasglu, diwygio, dileu a chreu cyfreithiau newydd. Cyfraniad mawr Hywel Dda oedd rhoi undod i'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru drwy ei ysbrydoliaeth.
Elfen pwysig i hanes Cymru oedd y gyfraith a oedd yn pennu etifeddiaeth . roedd rhaid rhannu eiddo yn gyfartal rhwyng yr holl feibion, yn wahanol i'r gyfraith yn Lloegr. roedd yn gyfraith deg iawn ond yn anffodus yr oedd yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu yn gyson heb obaith am undod parhaol.
[golygu] Gweler hefyd
- Peniarth 28 - llyfr cyfraith cynnar
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.