Cymru Fydd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Gweler hefyd Cymru Fydd (gwahaniaethu)
Cymru Fydd yw enw'r mudiad gwladgarol a sefyflwyd gan rhai o Gymry Llundain yn 1886. Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd hunanlywodraeth i Gymru. Yr enw Saesneg ar y mudiad oedd Young Wales, sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad Gwyddelig cyfoes dros hunanlywodraeth i Iwerddon Young Ireland. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr hanesydd J.E. Lloyd, y llenor ac addysgwr O.M. Edwards a'r gwleidydd Rhyddfrydol ifanc Tom Ellis. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd Beriah Gwynfe Evans a Michael D. Jones.
Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, Cymru Fydd yn Gymraeg a Young Wales yn Saesneg.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.