Dan y Wenallt
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfieithiad o ddrama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas yw Dan y Wenallt. Cyfieithwyd gan T James Jones, yn wreiddiol ar gyfer grwp o amaturiaid yn Nhalacharn, sef y pentre y treuliodd Dylan Thomas llawer o'i fywyd.
Un o'i amcanion wrth gyfieithu, medd T James Jones, oedd rhoi ar gof a chadw dafodiaith ardal Sir Gaerfyrddin fel ag yr oedd ym 50au'r ugeinfed ganrif. Cred nifer o feirniaid llenyddol i'r cyfieithydd lwyddo yn rhyfeddol ac fod y cyfieithiad yn glasur.