Daniel James
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Brodor o Dreboeth ar gyrion Abertawe oedd Daniel James (1847-1920). Ei ffugenw barddol oedd Gwyrosydd. Ef oedd awdur yr emyn "Calon Lân". Bu'n gweithio fel torrwr beddau yn Aberpennar am gyfnod. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Mynydd Bach, Abertawe.
Calon Lân
Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu-
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i'r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.