David Davies (Llandinam)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o ddiwydiannwyr mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 19eg ganrif oedd David Davies (Llandinam) (18 Rhagfyr 1818 - 20 Gorffennaf 1890). Fe'i ganwyd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn a chafodd ei alw'n Top Sawyer neu Davies the Ocean, ar ôl The Ocean Coal Company yn ogystal â'i llysenw mwy adnabyddus. Roedd yn Aelod Seneddol dros Geredigion o 1874 hyd 1886 a chefnogodd sefydliad Coleg Prifysgol yn Aberystwyth.
Roedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd ac yn dechrau gwaith fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu rheilffordd rhwng Llanidloes a 'r Drenewydd. Wedyn cafodd tir o'r teulu Crawshay yng Nghwm Rhondda a dechrau pwll glo yno. Fodd bynnag, doedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen glo ddim yn llwyddianus a daeth ei arian i ben tra'n chwilio amdano. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno. Sylfaenwyd pyllau glo'r Parc, Treorci a Maendy gan Davies. Oherwydd hynny, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.
Achos fod Ardalydd Bute yn dal i godi taliadau yn nociau Caerdydd, adeiladodd Davies dociau glo newydd yn Y Barri, porthladd mwyaf Cymru erbyn 1914.
Mae casgliad celf ei wyresau Gwendoline Davies a Margaret Davies i'w gweld gan y cyhoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Heddiw, saif cerflun David Davies ar bwys yr A470 yn Llandinam.