New Immissions/Updates:
boundless - educate - edutalab - empatico - es-ebooks - es16 - fr16 - fsfiles - hesperian - solidaria - wikipediaforschools
- wikipediaforschoolses - wikipediaforschoolsfr - wikipediaforschoolspt - worldmap -

See also: Liber Liber - Libro Parlato - Liber Musica  - Manuzio -  Liber Liber ISO Files - Alphabetical Order - Multivolume ZIP Complete Archive - PDF Files - OGG Music Files -

PROJECT GUTENBERG HTML: Volume I - Volume II - Volume III - Volume IV - Volume V - Volume VI - Volume VII - Volume VIII - Volume IX

Ascolta ""Volevo solo fare un audiolibro"" su Spreaker.
CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
David Rees - Wicipedia

David Rees

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Roedd y Parchedig David Rees (18 Tachwedd, 1801- 31 Mawrth, 1869) yn Weinidog gyda’r Annibynwyr ar Gapel Als, Llanelli ac yn olygydd y cylchgrawn Anghydffurfiol radical Y Diwygiwr. Fe’i adnabyddir orau am y teitl ‘Y Cynhyrfwr’, ei safbwyntiau gwleidyddol pendant a’i wrthwynebiad i berthynas Yr Eglwys Sefydledig â’r wladwriaeth.

Taflen Cynnwys

[golygu] Magwraeth

Ganwyd Rees ar ffermdy Gelli Lwyd ym mhlwyf Tre-lech yn Sir Gaerfyrddin. Yn ystod ei blentyndod bu’n gweithio ar y fferm yn ogystal â threulio peth amser gyda’r gof lleol.

Ni chafodd unrhyw addysg ffurfiol tra’n blentyn oni bai am yr Ysgol Sul a’r addoliad teuluol a gynhaliwyd ar ei aelwyd.

Yn 1818 fe’i derbyniwyd yn aelod yng Nghapel Annibynnol Tre-lech gan yr Uchel Galfinydd Morgan Jones ac yn 1822, a’i fryd ar fynd i’r weinidogaeth, aeth i ysgol yn Hwlffordd ac yna’n ddiweddarach ymlaen i ysgol arall yng Nghaerfyrddin.

Dechreuodd bregethu yn 1823 a bu iddo fynychu ysgol baratoi yn y Drenewydd, Powys cyn iddo gael ei dderbyn yn swyddogol i athrofa’r Annibynwyr yno yn 1825. Bu yn yr athrofa yn yr un cyfnod ac Annibynwyr nodedig eraill, yn eu plith Samuel Roberts, Llanbrynmair (S.R.), un a ddaeth yn ddiweddarach i olygu’r cylchgrawn radical Cronicl y cymdeithasau crefyddol.

[golygu] Bywyd Personol

Bu iddo briodi Sarah Roberts, merch i siopwr llwyddiannus a oedd yn ddiacon gyda’r Bedyddwyr yn 1832 a ganed iddynt bump o blant Bernard, Elizabeth, John Calfin, Luther a Frederic (boddodd y ddau olaf mewn damwain drychinebus pan oeddynt yn ei harddegau cynnar). Bu farw Sarah, ei wraig hithau yn 1857 ac ail briododd Rees â Mrs. Margaret Phillips, gweddw o Gaerfyrddin yn 1858.

[golygu] Gweinidog

Wedi iddo dreulio pedair blynedd yn Nhrenewydd derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Gapel Als, Llanelli yn 1829 ac fe barhaodd yn weinidog ar yr eglwys hon hyd at ei farwolaeth yn 1869.

Yn ogystal ac arwain nifer o ymgyrchoedd i adnewyddu ac ehangu Capel Als, bu Rees hefyd a rhan fawr mewn sefydlu nifer o gapeli Annibynnol eraill yn ardal Llanelli, sef Siloa, Capel Saesneg Y Parc, Capel y Bryn a’r Doc.

Ar ddechrau gweinidogaeth Rees dywedir fod oddeutu 250 o aelodau gan yr eglwys a fod hyn wedi cynyddu i 589 erbyn 1850 er gwaethaf rhannu’r gynulleidfa i ffurfio eglwysi eraill.

Yn ôl tystiolaeth David Rees ei hun ar gyfer Cyfrifiad Crefyddol 1851, roedd y capel wastad yn llawn i’r oedfaon hwyrol ac amcangyfrifodd mai 850 a fyddai’n bresennol yn y capel ar y Sul gan amlaf.

[golygu] Y Diwygiwr

Sefydlwyd y Diwygiwr gan David Rees ar gais Annibynwyr de orllewin Cymru yn 1835 fel ymateb i’r gogwydd cynyddol geidwadol y tueddai’r Efangylydd (a olygwyd gan Brutus, gwrthwynebydd pennaf Rees mewn blynyddoedd i ddod) tuag ato. Parhaodd i olygu'r cylchgrawn hyd at 1865.

Trwy’r Diwygiwr, cyflwynid egwyddorion gwleidyddol yr Anghydffurfwyr yn glir iawn ac o’r cylchgrawn hwn y daeth y gri y gysylltir agosaf â Rees: ‘Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer! yw ein cais atoch, gydwladwyr ... tra gallom ddal ysgrifell i ysgrifennu, eiliwn ein cais, Cynhyrfer! Cynhyrfer! Cynhyrfer!’

Daeth y Diwygiwr o dan Rees i fod yn offeryn cryf i brotestio yn erbyn anghyfiawnderau tybiedig yn erbyn yr Anghydffurfwyr ac i geisio annog pobl i wrthsefyll grym anghyfiawn yr Eglwys Sefydledig a’r awdurdodau. Yn ogystal â mynegi syniadau Anghydffurfiol, rhoddodd Rees hefyd ei gefnogaeth i’r egwyddor y tu ôl i fudiadau megis Merched Beca, Y Siartwyr, Y Gymdeithas Ryddhau a’r Gynghrair Gwrth Deddfau Ŷd (er nad yn cydsynio a’u ddulliau hwy oll o weithredu).

Daeth Rees hefyd i enwogrwydd oherwydd ei frwydr eiriol â Brutus (David Owen) a fu’n golygu cylchgrawn eglwysig Yr Haul. Yn y dadleuon hyn gwelir fedr a dawn ddeifiol Brutus i ymosod yn fachog, a gallu Rees i ymateb yn glir ac heb flewyn ar dafod i amddiffyn yr egwyddorion Cristnogol a gwleidyddol a oedd yn mynd law yn llaw ac Anghydffurfiaeth ac y credai ynddynt mor angerddol.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • R.T. Jenkins (Gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953)
  • Iorwerth Jones, David Rees Y Cynhyrfwr (Abertawe, 1971)
  • T. Davies, Bywyd ac Ysgrifeniadau y Diweddar Barch D. Rees, Llanelli (Llanelli, 1871)


[golygu] Cysylltiadau Allanol

Static Wikipedia (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu

Static Wikipedia February 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu