Deugotyledon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Deugotyledonau | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|||||||
Dosbarthiad biolegol | |||||||
|
|||||||
Urddau | |||||||
llawer, gweler rhestr |
Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd: dicotyledonau). Mae tua 170,000 o rywogaethau. Maen nhw'n cael eu dosbarthu yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau eu DNA yn dangos bod nhw'n ffurfio dau ddosbarth o leiaf.
[golygu] Urddau
Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.
Urdd | Enghreifftiau |
---|---|
"palaeodicotau" | |
Amborellales | |
Nympheales | lili'r dŵr |
Austrobaileyales | coeden anis |
Chloranthales | |
Ceratophyllales | cyrnddail |
Magnoliales | magnolia, nytmeg, afal cwstard |
Laurales | llawrwydden |
Piperales | pupur |
Aristolochiales | esgorlys |
Canellales | |
"ewdicotau" | |
Ranunculales | blodyn ymenyn, pabi |
Buxales | pren bocs |
Trochodendrales | |
Proteales | protea, planwydden, lotws |
Gunnerales | |
Berberidopsidales | |
Dilleniales | |
Caryophyllales | carnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot |
Saxifragales | tormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd |
Santalales | uchelwydd |
Vitales | gwinwydden |
Crossosomatales | |
Geraniales | pig yr aran, mynawyd y bugail |
Myrtales | myrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal |
Zygophyllales | |
Celastrales | brial y gors |
Malpighiales | llaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled |
Oxalidales | suran y coed |
Fabales | ffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen |
Rosales | rhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch |
Cucurbitales | cucumer, melon, pwmpen |
Fagales | ffawydden, derwen, bedwen |
Brassicales | bresychen, mwstard, rêp |
Malvales | hocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn |
Sapindales | oren, lemon, mahogani |
Cornales | cwyrosyn |
Ericales | grug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen |
Garryales | |
Solanales | codwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys |
Gentianales | crwynllys, coffi |
Lamiales | mintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden |
Teulu Boraginaceae (urdd ansicr) | cyfardwf, sgorpionllys |
Aquifoliales | celynnen |
Apiales | moronen, persli |
Dipsacales | cribau'r pannwr, gwyddfid |
Asterales | blodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant-y-llew |