Diane de Poitiers
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Diane de Poitiers, Duges Valentinois (3 Medi, 1499 - 25 Ebrill, 1566) yn wraig llys ddylanwadol yn Ffrainc a gordderch Harri II o Ffrainc.
Priododd yn 13 oed. Daeth yn adnabyddus am ei harddwch a'i phersonoliaeth atyniadol. Yn weddw brydferth yn 32 oed, enillodd cariad y Dauphin ifanc, bachgen ar y pryd a oedd eisoes yn briod â Catherine de' Medici. Pan esgynodd y dauphin i'r orsedd yn 1547 fel Harri II o Ffrainc roedd Diane mewn sefyllfa i ddylanwadu'n fawr ar fywyd y llys a'r deyrnas a chafodd ei gwneud yn Dduges Valentinois.
Ar farwolaeth Harri yn 1559 cafodd ei gofodi gan Catherine de' Medici i ymneilltuo i'w chateau yn Anet.