Dylan Iorwerth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Newyddiadurwr a llenor yw Dylan Iorwerth (ganwyd 1957). Cafodd ei eni yn Nolgellau ond symudodd y teulu i Waunfawr pan oedd yn saith oed. Yn dilyn bod yng Ngoleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ymunodd â'r Wrexham Leader cyn ymuno ag Adran Newyddion Radio Cymru. Bu yn un o sylfaenwyr y papur Sul wythnosol Sulyn a'r cylchgrawn wythnosol Golwg
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.